Jeremeia 36:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Atebodd Baruch, “Ef ei hun oedd yn llefaru wrthyf yr holl eiriau hyn, a minnau'n eu hysgrifennu ag inc ar y sgrôl.”

19. Yna dywedodd y swyddogion wrth Baruch, “Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia, a pheidiwch â gadael i neb wybod lle'r ydych.”

20. Yna aethant at y brenin i'r llys, ar ôl iddynt gadw'r sgrôl yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd, a mynegwyd y cwbl yng nghlyw'r brenin.

21. Yna anfonwyd Jehudi gan y brenin i gyrchu'r sgrôl, a daeth yntau â hi o ystafell Elisama yr ysgrifennydd; a darllenodd Jehudi hi yng nghlyw'r brenin a'r holl swyddogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.

Jeremeia 36