Jeremeia 36:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yna darllenodd Baruch holl eiriau Jeremeia o'r sgrôl yng nghlyw'r holl bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia fab Saffan, yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf wrth y fynedfa i'r Porth Newydd yn nhŷ'r ARGLWYDD.

11. Pan glywodd Michaia fab Gemareia, fab Saffan, holl eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr,

12. aeth i lawr i dŷ'r brenin, i ystafell yr ysgrifennydd, ac yno yr oedd yr holl swyddogion yn eistedd: Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia fab Semaia, ac Elnathan fab Achbor, a Gemareia fab Saffan, a Sedeceia fab Hananeia, a'r holl swyddogion.

13. Mynegodd Michaia iddynt bob peth a glywodd pan ddarllenodd Baruch o'r sgrôl yng nghlyw'r bobl.

Jeremeia 36