Jeremeia 35:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. ‘Fe gadwyd geiriau Jonadab fab Rechab pan orchmynnodd i'w blant nad yfent win, oherwydd nid ydynt yn ei yfed hyd heddiw, ond y maent yn ufuddhau i orchymyn eu tad. Ond er i mi lefaru'n daer wrthych, nid ydych chwi'n ufuddhau i mi.

15. Anfonais atoch fy holl weision, y proffwydi, a'u hanfon yn gyson gan ddweud: “Trowch yn wir bob un o'i ffordd ddrygionus, a gwella'ch gweithredoedd; peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu. Yna cewch fyw yn y tir a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.” Ond ni wrandawsoch arnaf fi nac ufuddhau.

16. Cadwodd meibion Jonadab fab Rechab orchymyn eu tad, ond nid ufuddhaodd y bobl hyn i mi.’

17. “Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: ‘Yr wyf am ddwyn ar Jwda a holl drigolion Jerwsalem yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn, oherwydd lleferais wrthynt ac ni wrandawsant, gelwais arnynt ac nid atebasant.’ ”

18. Ac wrth deulu'r Rechabiaid dywedodd Jeremeia, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Oherwydd i chwi ufuddhau i orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl ddeddfau a gwneud pob peth a orchmynnodd i chwi,

19. am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Ni fydd Jonadab fab Rechab byth heb ŵr i sefyll yn fy ngŵydd.’ ”

Jeremeia 35