Jeremeia 34:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda oedd yn weddill, sef Lachis ac Aseca; oherwydd hwy oedd yr unig ddinasoedd caerog a adawyd o blith dinasoedd Jwda.

8. Daeth gair at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i'r Brenin Sedeceia wneud cyfamod â'r holl bobl yn Jerwsalem i gyhoeddi rhyddhad,

9. sef bod pob un i ollwng ei gaethion o Hebreaid yn rhydd, boed wryw neu fenyw, rhag bod neb yn cadw Iddew arall yn gaeth.

10. Cytunodd pob un o'r tywysogion, a'r bobl a dderbyniodd y cyfamod, i ryddhau ei gaethwas a'i gaethferch, rhag iddynt fod yn gaeth mwyach; ac ar ôl cytuno, gollyngasant hwy yn rhydd.

11. Ond wedi hynny bu edifar ganddynt, a dygasant yn ôl y gweision a'r morynion a ollyngwyd yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.

12. A dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:

Jeremeia 34