Jeremeia 32:32-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. o achos yr holl ddrygioni a wnaeth pobl Israel a phobl Jwda i'm digio—hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, eu proffwydi, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem.

33. Troesant wegil tuag ataf, ac nid wyneb; dysgais hwy yn gyson a thaer, ond ni fynnent wrando na derbyn gwers.

34. Rhoesant eu ffieidd-dra yn y tŷ a alwyd ar fy enw, a'i halogi.

35. Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.’

Jeremeia 32