Jeremeia 32:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Daethant hwy a'i meddiannu, ond ni fuont yn ufudd i'th lais, na rhodio yn dy gyfraith. Ni wnaethant ddim oll o'r hyn a orchmynnaist iddynt, a pheraist tithau i'r holl niwed hwn ddigwydd iddynt.

24. Y mae'r cloddiau gwarchae wedi cyrraedd at y ddinas i'w goresgyn; trwy'r cleddyf a newyn a haint rhoir y ddinas yng ngafael y Caldeaid sy'n ymladd yn ei herbyn. Y mae'r hyn a ddywedaist wedi digwydd, fel y gweli.

25. Ac yr wyt ti, O ARGLWYDD Dduw, wedi dweud wrthyf, “Pryn y maes ag arian a chymer dystion”, er bod y ddinas i'w rhoi yng ngafael y Caldeaid.’ ”

26. Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

27. “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw pob cnawd. A oes dim yn rhy ryfeddol i mi?

Jeremeia 32