Jeremeia 31:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Yr adeg honno,” medd yr ARGLWYDD, “byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi.”

2. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Cafodd y bobl a osgôdd y cleddyf ffafr yn yr anialwch;tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun.

3. Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo.Cerais di â chariad diderfyn;am hynny parheais yn ffyddlon iti.

4. Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu;cei ymdrwsio eto â'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.

Jeremeia 31