Jeremeia 25:33-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. “Y dydd hwnnw, bydd lladdedigion yr ARGLWYDD yn ymestyn o'r naill gwr i'r ddaear hyd y llall; ni fydd galaru amdanynt, ac nis cesglir na'u claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.”

34. Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch;ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd;canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru,ac fe gwympwch fel llydnod dethol.

35. Collir lloches gan y bugeiliaid,a dihangfa gan bendefigion y praidd.

36. Clyw gri'r bugeiliaid,a nâd pendefigion y praidd!Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difa'u porfa;

37. dryllir corlannau heddychlon gan lid digofaint yr ARGLWYDD.

38. Fel llew, gadawodd ei loches;aeth eu tir yn anghyfannedd gan lid gorthrymwr,a llid digofaint yr ARGLWYDD.

Jeremeia 25