Jeremeia 25:32-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall;cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.”

33. “Y dydd hwnnw, bydd lladdedigion yr ARGLWYDD yn ymestyn o'r naill gwr i'r ddaear hyd y llall; ni fydd galaru amdanynt, ac nis cesglir na'u claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.”

34. Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch;ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd;canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru,ac fe gwympwch fel llydnod dethol.

35. Collir lloches gan y bugeiliaid,a dihangfa gan bendefigion y praidd.

Jeremeia 25