Jeremeia 25:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian, ac yn gwallgofi oherwydd y cleddyf a anfonaf i'w plith.”

17. Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais yr holl genhedloedd yr anfonodd yr ARGLWYDD fi atynt:

18. Jerwsalem a dinasoedd Jwda, ei brenhinoedd a'i thywysogion, i'w gwneud yn ddiffeithwch, yn ddychryn, yn syndod, ac yn felltith, fel y maent heddiw;

19. hefyd Pharo brenin yr Aifft, a'i weision a'i dywysogion a'i holl bobl,

Jeremeia 25