Jeremeia 23:38-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Ac os dywedwch, ‘Baich yr ARGLWYDD’, yna, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am i chwi ddefnyddio'r gair hwn, ‘Baich yr ARGLWYDD’, er i mi anfon atoch a dweud, ‘Peidiwch â defnyddio “Baich yr ARGLWYDD”,’

39. fe'ch codaf chwi fel baich a'ch taflu o'm gŵydd, chwi a'r ddinas a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.

40. Rhof arnoch warth tragwyddol a gwaradwydd tragwyddol nas anghofir.”

Jeremeia 23