Jeremeia 23:29-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. “Onid yw fy ngair fel tân,” medd yr ARGLWYDD, “ac fel gordd sy'n dryllio'r graig?

30. Am hynny, wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n lladrata fy ngeiriau oddi ar ei gilydd,” medd yr ARGLWYDD.

31. “Wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n llunio geiriau ac yn eu cyhoeddi fel oracl,” medd yr ARGLWYDD.

32. “Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl â'u hanwiredd a'u gwagedd,” medd yr ARGLWYDD. “Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn,” medd yr ARGLWYDD.

33. “Pan ofynnir iti gan y bobl hyn, neu gan broffwyd neu offeiriad, ‘Beth yw baich yr ARGLWYDD?’ dywedi wrthynt, ‘Chwi yw'r baich; ac fe'ch bwriaf ymaith, medd yr ARGLWYDD.’

34. Os dywed proffwyd neu offeiriad neu'r bobl, ‘Baich yr ARGLWYDD’, mi gosbaf hwnnw a'i dŷ.

35. Fel hyn y bydd pob un ohonoch yn dweud wrth siarad ymhlith eich gilydd: ‘Beth a etyb yr ARGLWYDD?’ neu, ‘Beth a lefara'r ARGLWYDD?’

36. Ond ni fyddwch yn sôn eto am ‘faich yr ARGLWYDD’, oherwydd daeth ‘baich’ i olygu eich gair chwi eich hunain; yr ydych wedi gwyrdroi geiriau'r Duw byw, ARGLWYDD y Lluoedd, ein Duw ni.

37. Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd hwnnw: ‘Pa ateb a roes yr ARGLWYDD iti?’, neu, ‘Beth a lefarodd wrthyt?’

38. Ac os dywedwch, ‘Baich yr ARGLWYDD’, yna, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am i chwi ddefnyddio'r gair hwn, ‘Baich yr ARGLWYDD’, er i mi anfon atoch a dweud, ‘Peidiwch â defnyddio “Baich yr ARGLWYDD”,’

39. fe'ch codaf chwi fel baich a'ch taflu o'm gŵydd, chwi a'r ddinas a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.

40. Rhof arnoch warth tragwyddol a gwaradwydd tragwyddol nas anghofir.”

Jeremeia 23