Jeremeia 23:24-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?” medd yr ARGLWYDD.“Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?” medd yr ARGLWYDD.

25. “Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, ‘Breuddwydiais, breuddwydiais!’

26. Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd—proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain?

27. Bwriadant beri i'm pobl anghofio fy enw trwy adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall, fel y bu i'w hynafiaid anghofio fy enw o achos Baal.

28. Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged ei freuddwyd, a'r hwn sydd â'm gair i ganddo, llefared fy ngair yn ffyddlon. Beth sy'n gyffredin rhwng gwellt a gwenith?” medd yr ARGLWYDD.

29. “Onid yw fy ngair fel tân,” medd yr ARGLWYDD, “ac fel gordd sy'n dryllio'r graig?

30. Am hynny, wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n lladrata fy ngeiriau oddi ar ei gilydd,” medd yr ARGLWYDD.

31. “Wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n llunio geiriau ac yn eu cyhoeddi fel oracl,” medd yr ARGLWYDD.

32. “Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl â'u hanwiredd a'u gwagedd,” medd yr ARGLWYDD. “Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn,” medd yr ARGLWYDD.

33. “Pan ofynnir iti gan y bobl hyn, neu gan broffwyd neu offeiriad, ‘Beth yw baich yr ARGLWYDD?’ dywedi wrthynt, ‘Chwi yw'r baich; ac fe'ch bwriaf ymaith, medd yr ARGLWYDD.’

34. Os dywed proffwyd neu offeiriad neu'r bobl, ‘Baich yr ARGLWYDD’, mi gosbaf hwnnw a'i dŷ.

Jeremeia 23