13. “Ymhlith proffwydi Samaria gwelais beth anweddus:y maent yn proffwydo yn enw Baal, ac yn hudo fy mhobl Israel ar gyfeiliorn.
14. Ymhlith proffwydi Jerwsalem gwelais beth erchyll:godinebu a rhodio mewn anwiredd;y maent yn cynnal breichiau'r rhai drygionus,fel na thry neb oddi wrth ei ddrygioni.I mi aethant oll fel Sodom, a'u trigolion fel Gomorra.”
15. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, am y proffwydi:“Wele, rhof wermod yn fwyd iddynt, a dŵr bustl yn ddiod,canys o blith proffwydi Jerwsalem aeth annuwioldeb allan trwy'r holl dir.”
16. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Peidiwch â gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi, gan addo i chwi bethau ffals; y maent yn llefaru gweledigaeth o'u dychymyg eu hunain, ac nid o enau yr ARGLWYDD.
17. Parhânt i ddweud wrth y rhai sy'n dirmygu gair yr ARGLWYDD, ‘Heddwch fo i chwi’; ac wrth bob un sy'n rhodio yn ôl ystyfnigrwydd ei galon dywedant, ‘Ni ddaw arnoch niwed.’
18. “Pwy a safodd yng nghyngor yr ARGLWYDD,a gweld a chlywed ei air?Pwy a ddaliodd ar ei air, a'i wrando?
19. Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig,gan chwyrlïo fel tymestl,a throelli uwchben yr annuwiol.
20. Ni phaid digofaint yr ARGLWYDDnes iddo gwblhau ei fwriadau a'u cyflawni.Yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn yn eglur.
21. Nid anfonais y proffwydi, ond eto fe redant;ni leferais wrthynt, ond eto fe broffwydant.
22. Pe baent wedi sefyll yn fy nghyngor, byddent wedi peri i'm pobl wrando ar fy ngeiriau,a'u troi o'u ffyrdd drygionus ac o'u gweithredoedd drwg.
23. “Onid Duw agos wyf fi,” medd yr ARGLWYDD, “ac nid Duw pell?
24. A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?” medd yr ARGLWYDD.“Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?” medd yr ARGLWYDD.
25. “Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, ‘Breuddwydiais, breuddwydiais!’
26. Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd—proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain?