Jeremeia 23:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Am hynny bydd eu ffyrdd fel mannau llithrig;gyrrir hwy i'r tywyllwch, a byddant yn syrthio yno.Canys dygaf ddrygioni arnynt ym mlwyddyn eu cosbi,” medd yr ARGLWYDD.

13. “Ymhlith proffwydi Samaria gwelais beth anweddus:y maent yn proffwydo yn enw Baal, ac yn hudo fy mhobl Israel ar gyfeiliorn.

14. Ymhlith proffwydi Jerwsalem gwelais beth erchyll:godinebu a rhodio mewn anwiredd;y maent yn cynnal breichiau'r rhai drygionus,fel na thry neb oddi wrth ei ddrygioni.I mi aethant oll fel Sodom, a'u trigolion fel Gomorra.”

15. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, am y proffwydi:“Wele, rhof wermod yn fwyd iddynt, a dŵr bustl yn ddiod,canys o blith proffwydi Jerwsalem aeth annuwioldeb allan trwy'r holl dir.”

Jeremeia 23