Jeremeia 23:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Gwae chwi fugeiliaid, sydd yn gwasgaru defaid fy mhorfa ac yn eu harwain ar grwydr,” medd yr ARGLWYDD.

2. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am y bugeiliaid sy'n bugeilio fy mhobl: “Gwasgarasoch fy mhraidd, a'u hymlid ymaith, heb wylio drostynt; ond yr wyf fi am ymweld â chwi am eich gwaith drygionus,” medd yr ARGLWYDD.

3. “Yr wyf fi am gasglu ynghyd weddill fy mhraidd o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, a'u dwyn drachefn i'w corlan; ac fe amlhânt yn ffrwythlon.

4. Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy,” medd yr ARGLWYDD.

Jeremeia 23