Jeremeia 22:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Neilltuaf ddinistrwyr yn dy erbyn,pob un â'i arfau;fe dorrant dy gedrwydd gorau,a'u bwrw i'r tân.”

8. “Bydd cenhedloedd lawer yn mynd heibio i'r ddinas hon, a phob un yn dweud wrth ei gilydd, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn â'r ddinas fawr hon?’

9. Ac atebant, ‘Oherwydd iddynt gefnu ar gyfamod yr ARGLWYDD eu Duw, ac addoli duwiau eraill, a'u gwasanaethu.’ ”

10. Peidiwch ag wylo dros y marw, na gofidio amdano;wylwch yn wir dros yr un sy'n mynd ymaith,oherwydd ni ddychwel mwyach,na gweld gwlad ei enedigaeth.

11. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum, mab Joseia brenin Jwda, a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad: “Aeth allan o'r lle hwn, ac ni ddychwel yma eto;

12. bydd farw yn y lle y caethgludwyd ef iddo, ac ni wêl y wlad hon eto.”

Jeremeia 22