Jeremeia 22:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:“Ni alarant amdano, a dweud, ‘O fy mrawd! O fy nghâr!’Ni alarant amdano, a dweud, ‘O Arglwydd! O Fawrhydi!’

19. Fel claddu asyn y cleddir ef—ei lusgo a'i daflu y tu hwnt i byrth Jerwsalem.”

20. Dring i Lebanon, a gwaedda;yn Basan cod dy lef;bloeddia o Abarim,“Dinistriwyd pawb sy'n dy garu.”

21. Lleferais wrthyt yn dy wynfyd;dywedaist, “Ni wrandawaf.”Dyma dy ffordd o'th ieuenctid,ac ni wrandewaist arnaf.

22. Bugeilia'r gwynt dy holl fugeiliaid,ac i gaethiwed yr â dy geraint;yna fe'th gywilyddir a'th waradwyddoam dy holl ddrygioni.

Jeremeia 22