Jeremeia 22:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Gwae'r sawl a ddywed, “Adeiladaf i mi fy hun dŷ eangac iddo lofftydd helaeth.”Gwna iddo ffenestri, a phaneli o gedrwydd,a'i liwio â fermiliwn.

15. A wyt yn d'ystyried dy hun yn freninoherwydd i ti gystadlu mewn cedrwydd?Oni fwytaodd dy dad, ac yfed,gan wneud cyfiawnder a barn,ac yna bu'n dda arno?

16. Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus,ac yna bu'n dda arno.“Onid hyn yw f'adnabod i?” medd yr ARGLWYDD.

17. Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn,i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.

18. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:“Ni alarant amdano, a dweud, ‘O fy mrawd! O fy nghâr!’Ni alarant amdano, a dweud, ‘O Arglwydd! O Fawrhydi!’

Jeremeia 22