Jeremeia 22:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Dos i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn:

2. ‘Clyw air yr ARGLWYDD, frenin Jwda, sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, tydi a'th weision a'th bobl sy'n tramwy trwy'r pyrth hyn.

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwnewch farn a chyfiawnder; achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr. Peidiwch â gwneud cam na niwed i'r dieithr, na'r amddifad na'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y lle hwn.

4. Os yn wir y cyflawnwch y gair hwn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn teithio mewn cerbydau ac yn marchogaeth ar feirch, pob un â'i weision a'i bobl.

Jeremeia 22