Jeremeia 21:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Byddaf fi fy hun yn rhyfela yn eich erbyn, a'm llaw wedi ei hestyn allan, a'm braich yn gref, mewn soriant a llid a digofaint mawr.

6. Trawaf drigolion y ddinas hon, yn ddyn ac yn anifail; byddant farw o haint mawr.

7. Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, rhof Sedeceia brenin Jwda a'i weision, a'r bobl a weddillir yn y ddinas hon wedi'r haint a'r cleddyf a'r newyn, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael eu gelynion a'r rhai a geisiai eu heinioes. Bydd ef yn eu taro â min y cleddyf, heb dosturio wrthynt nac arbed nac estyn trugaredd.’ ”

8. “Wrth y bobl hyn hefyd dywed, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n gosod o'ch blaen ffordd bywyd a ffordd marwolaeth.

9. Bydd y sawl sy'n aros yn y ddinas hon yn marw drwy gleddyf neu newyn neu haint, a'r sawl sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Caldeaid sy'n gwarchae arnoch yn byw; bydd yn arbed ei fywyd.

10. Gosodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg ac nid er da, medd yr ARGLWYDD; fe'i rhoddir yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi â thân.’ ”

11. “Wrth dŷ brenin Jwda dywed,‘Clyw air yr ARGLWYDD.

12. Tŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Barnwch yn uniawn yn y bore,achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr,rhag i'm llid fynd allan yn dân,a llosgi heb neb i'w ddiffodd,oherwydd eich gweithredoedd drwg.’

13. “Wele fi yn dy erbyn, ti breswylydd y dyffrynwrth graig y gwastadedd,” medd yr ARGLWYDD.“Fe ddywedwch chwi, ‘Pwy ddaw i waered yn ein herbyn?Pwy ddaw i mewn i'n gwâl?’

14. Talaf i chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd,” medd yr ARGLWYDD.“Cyneuaf dân yn ei choedwig,ac ysa bob peth o'i hamgylch.”

Jeremeia 21