Jeremeia 2:29-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Pam yr ydych yn dadlau â mi?Rydych wedi gwrthryfela yn f'erbyn, bawb ohonoch,” medd yr ARGLWYDD.

30. “Yn ofer y trewais eich plant; ni dderbyniant gerydd.Y mae eich cleddyf wedi difa'ch proffwydi, fel llew yn rheibio.

31. Chwi genhedlaeth, ystyriwch air yr ARGLWYDD.Ai anialwch a fûm i Israel, neu wlad tywyllwch?Pam y dywed fy mhobl, ‘Yr ydym ni'n rhydd;ni ddown mwyach atat ti’?

32. A anghofia geneth ei thlysau, neu briodferch ei rhubanau?Eto y mae fy mhobl wedi fy anghofio i, ddyddiau di-rif.

33. “Mor dda yr wyt yn dewis dy ffordd i geisio cariadon,gan ddysgu dy ffyrdd hyd yn oed i ferched drwg.

34. Cafwyd ym mhlygion dy wisg waed einioes tlodion diniwed—ac nid yn torri i mewn y deliaist hwy—

Jeremeia 2