Jeremeia 2:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. O nefoedd, rhyfeddwch at hyn;arswydwch, ac ewch yn gwbl ddiffaith,’ medd yr ARGLWYDD.

13. ‘Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg:fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw,a chloddio iddynt eu hunain bydewau,pydewau toredig, na allant ddal dŵr.’ ”

14. “Ai caethwas yw Israel? Neu a anwyd ef yn gaeth?Pam, ynteu, yr aeth yn ysbail?

15. Rhuodd y llewod a chodi eu llais yn ei erbyn.Gwnaethant ei dir yn ddiffaith,a'i ddinasoedd yn anghyfannedd heb drigiannydd.

16. Hefyd, torrodd meibion Noff a Tahpanhes dy gorun.

Jeremeia 2