Jeremeia 18:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ystyria fi, O ARGLWYDD,a chlyw beth y mae f'achwynwyr yn ei ddweud.

20. A ad-delir drwg am dda?Cloddiasant bwll ar fy nghyfer.Cofia imi sefyll o'th flaen,i lefaru'n dda amdanyntac i droi ymaith dy ddig oddi wrthynt.

21. Am hynny rho'u plant i'r newyn,lladder hwy trwy rym y cleddyf;bydded eu gwragedd yn weddwon di-blant,a'u gwŷr yn farw gelain,a'u gwŷr ifainc wedi eu taro â'r cleddyf mewn rhyfel.

22. Bydded i waedd godi o'u tai,am i'r ysbeiliwr ddod yn ddisymwth ar eu gwarthaf;canys cloddiasant bwll i'm dal,a chuddio maglau i'm traed.

23. Ond yr wyt ti, O ARGLWYDD, yn gwybodam eu holl gynllwyn yn f'erbyn, i'm lladd.Paid â maddau iddynt eu camwedd,na dileu eu pechod o'th ŵydd.Bydded iddynt faglu o'th flaen;delia â hwy yn awr dy ddigofaint.

Jeremeia 18