Jeremeia 17:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd,yn gwthio'i wreiddiau i'r afon,heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir;ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.

9. “Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim,a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?

10. Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn profi cymhellion,i roi i bawb yn ôl eu ffyrddac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd.”

11. Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd,y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn;yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef,a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd.

12. Gorsedd ogoneddus, ddyrchafedig o'r dechreuad,dyna fan ein cysegr ni.

Jeremeia 17