Jeremeia 16:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ni rennir bara galar i roi cysur iddynt am y marw, ac nid estynnir cwpan cysur am na thad na mam.

8. Ac nid ei di i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwy i fwyta ac yfed.’ ”

9. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:”“Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau,rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd,ar lais priodfab a phriodferch.”

10. “Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, ‘Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’

11. Dywed dithau wrthynt, ‘Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a rhodio ar ôl duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith.

Jeremeia 16