Jeremeia 14:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd,pam y byddi fel dieithryn yn y tir,fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?

9. Pam y byddi fel un mewn syndod,fel un cryf yn methu achub?Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD;dy enw di a roddwyd arnom; paid â'n gadael.”

10. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn:“Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed;am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt,fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau.”

11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â gweddïo dros les y bobl hyn.

12. Pan ymprydiant, ni wrandawaf ar eu cri; pan aberthant boethoffrwm a bwydoffrwm, ni fynnaf hwy; ond difethaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint.”

13. Dywedais innau, “O fy Arglwydd DDUW, wele'r proffwydi yn dweud wrthynt, ‘Ni welwch gleddyf, ni ddaw newyn arnoch, ond fe rof i chwi wir heddwch yn y lle hwn.’ ”

14. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ffôl, a thwyll eu dychymyg eu hunain.

15. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n proffwydo yn fy enw er nad anfonais hwy, sy'n dweud na bydd cleddyf na newyn yn y wlad hon: ‘Trwy'r cleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.

16. Oherwydd y newyn a'r cleddyf, teflir allan i heolydd Jerwsalem y bobl y proffwydir iddynt, heb neb i'w claddu hwy eu hunain na'u gwragedd na'u meibion na'u merched. Tywalltaf eu drygioni arnynt.’ ”

17. “A dywedi wrthynt y gair hwn:‘Difered fy llygaid ddagrau, nos a dydd heb beidio.Daeth briw enbyd i'r wyryf, merch fy mhobl;ergyd drom iawn.

18. Os af i'r maes, yno y mae'r cyrff a laddwyd â'r cleddyf.Os af i'r ddinas, yno y mae'r rhai a nychwyd gan y newyn.Y mae'r proffwyd hefyd a'r offeiriad yn crwydro'r wlad,a heb ddeall.’ ”

Jeremeia 14