Jeremeia 14:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd,pam y byddi fel dieithryn yn y tir,fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?

9. Pam y byddi fel un mewn syndod,fel un cryf yn methu achub?Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD;dy enw di a roddwyd arnom; paid â'n gadael.”

10. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn:“Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed;am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt,fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau.”

Jeremeia 14