Jeremeia 14:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Oherwydd craciodd y pridd am na ddaeth glaw i'r wlad;mewn cywilydd cuddiodd yr amaethwyr eu hwynebau.

5. Y mae'r ewig yn bwrw llwdn yn y maes, ac yn ei adael am nad oes porfa;

6. y mae'r asynnod gwyllt yn sefyll ar y moelydd uchel, ac yn yfed gwynt fel bleiddiaid;pylodd eu llygaid am nad oes gwellt.”

7. “Yn ddiau, er i'n drygioni dystio yn ein herbyn,O ARGLWYDD, gweithreda er mwyn dy enw.Y mae ein gwrthgilio'n aml, pechasom yn dy erbyn.

8. Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd,pam y byddi fel dieithryn yn y tir,fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?

Jeremeia 14