Jeremeia 13:25-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Hyn fydd dy ran, yr hyn a fesurais i ti,” medd yr ARGLWYDD,“am i ti fy anghofio, ac ymddiried mewn celwydd.

26. Mi godaf odre dy wisg dros dy wyneb,ac amlygir dy warth.

27. Gwelais dy anlladrwydd, dy odineb, dy weryriad nwydus,a budreddi dy buteindra ar fryn a maes.Gwae di, Jerwsalem! Ni fyddi'n lân!Pa hyd, eto, y pery hyn?”

Jeremeia 13