Jeremeia 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: “Dos a phryn wregys lliain, a'i roi am dy lwynau; paid â'i ddodi mewn dŵr.”

2. Prynais wregys ar air yr ARGLWYDD, a'i roi am fy llwynau.

3. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, a dweud,

4. “Cymer y gwregys a brynaist, ac sydd am dy lwynau, a dos i ymyl afon Ewffrates a'i guddio yno mewn hollt yn y graig.”

Jeremeia 13