1. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: “Dos a phryn wregys lliain, a'i roi am dy lwynau; paid â'i ddodi mewn dŵr.”
2. Prynais wregys ar air yr ARGLWYDD, a'i roi am fy llwynau.
3. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, a dweud,
4. “Cymer y gwregys a brynaist, ac sydd am dy lwynau, a dos i ymyl afon Ewffrates a'i guddio yno mewn hollt yn y graig.”
5. Felly euthum a'i guddio wrth ymyl afon Ewffrates, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i mi.
6. Ar ôl dyddiau lawer dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos i ymyl afon Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys y gorchmynnais iti ei guddio yno.”
7. Euthum innau yno, a chloddio a chymryd y gwregys o'r lle y cuddiais ef; ac wele, yr oedd y gwregys wedi ei ddifetha, ac nid oedd yn dda i ddim.
8. Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Felly y difethaf finnau falchder Jwda a balchder mawr Jerwsalem.
10. Fel y gwregys yma, nad yw'n dda i ddim, y bydd y bobl ddrygionus hyn, sy'n gwrthod gwrando ar fy ngeiriau, ond yn rhodio yn ystyfnigrwydd eu calon, ac yn dilyn duwiau eraill i'w gwasanaethu a'u haddoli.