Jeremeia 12:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. “Gadewais fy nhŷ, rhois heibio fy nhreftadaeth,rhois anwylyd fy nghalon yn llaw ei gelynion.

8. Aeth fy nhreftadaeth yn fy ngolwg fel llew yn y coed;y mae'n codi ei llais yn f'erbyn; am hynny yr wyf yn ei chasáu.

9. Onid yw fy nhreftadaeth i mi fel aderyn brith,a'r adar yn ymgasglu yn ei erbyn?Casglwch holl fwystfilod y maes, a'u dwyn i fwyta.

10. Y mae bugeiliaid lawer wedi distrywio fy ngwinllan,a sathru ar fy rhandir;gwnaethant fy rhandir dirion yn anial diffaith.

Jeremeia 12