Jeremeia 12:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gwnaethant hi'n anrhaith, ac fe alara'r anrheithiedig wrthyf;anrheithiwyd yr holl wlad, ac nid oes neb yn malio.

12. Daw dinistrwyr ar holl foelydd yr anialwch;y mae cleddyf yr ARGLWYDD yn difa'r wlad o'r naill ben i'r llall;nid oes heddwch i un cnawd.

13. Y maent yn hau gwenith ac yn medi drain,yn ymlâdd heb elwa dim;yn cael eu siomi yn eu cynhaeaf,oherwydd angerdd llid yr ARGLWYDD.”

14. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am fy holl gymdogion drwg, sy'n ymyrryd â'r etifeddiaeth a roddais i'm pobl Israel i'w meddiannu: “Rwyf am eu diwreiddio o'u tir, a thynnu tŷ Jwda o'u plith.

15. Ac yna, wedi i mi eu diwreiddio, fe drugarhaf wrthynt drachefn, a'u hadfer bob un i'w etifeddiaeth a'i dir.

Jeremeia 12