Jeremeia 12:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuaf â thi;er hynny, gosodaf fy achos o'th flaen:Pam y llwydda ffordd y drygionus, ac y ffynna pob twyllwr?

2. Plennaist hwy, a gwreiddiasant;tyfant a dwyn ffrwyth.Yr wyt ar flaen eu tafod, ond ymhell o'u calon.

3. Ond yr wyt yn f'adnabod i, ARGLWYDD, yn fy ngweld,ac yn profi fy meddyliau tuag atat.Didola hwy fel defaid i'r lladdfa,a'u corlannu erbyn diwrnod lladd.

4. Pa hyd y galara'r tir, ac y gwywa'r glaswellt ym mhob maes? O achos drygioni y rhai sy'n trigo yno, ysgubwyd ymaith anifail ac aderyn, er i'r bobl ddweud, “Ni wêl ef ein diwedd ni.”

5. “Os wyt wedi rhedeg gyda'r gwŷr traed, a hwythau'n dy flino,pa fodd y cystedli â meirch?Ac os wyt yn baglu mewn gwlad rwydd,pa fodd y llwyddi yng ngwlad wyllt yr Iorddonen?”

6. “Oherwydd y mae hyd yn oed dy dylwyth a'th deulu dy hun wedi dy dwyllo; buont yn galw'n daer ar dy ôl; paid â'u coelio, er iddynt ddweud geiriau teg wrthyt.”

Jeremeia 12