Jeremeia 12:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuaf â thi;er hynny, gosodaf fy achos o'th flaen:Pam y llwydda ffordd y drygionus, ac y ffynna pob twyllwr?

2. Plennaist hwy, a gwreiddiasant;tyfant a dwyn ffrwyth.Yr wyt ar flaen eu tafod, ond ymhell o'u calon.

3. Ond yr wyt yn f'adnabod i, ARGLWYDD, yn fy ngweld,ac yn profi fy meddyliau tuag atat.Didola hwy fel defaid i'r lladdfa,a'u corlannu erbyn diwrnod lladd.

Jeremeia 12