Jeremeia 11:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. O ARGLWYDD y Lluoedd, barnwr cyfiawn,chwiliwr y galon a'r deall,rho i mi weld dy ddialedd arnynt,canys i ti y datguddiaf fy nghwyn.

21. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am bobl Anathoth, sydd yn ceisio fy einioes ac yn dweud, “Paid â phroffwydo mwyach yn enw yr ARGLWYDD, ac ni fyddi farw trwy ein dwylo ni.”

22. Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Rwyf am ddial arnynt; bydd eu gwŷr ifainc farw trwy'r cleddyf, a'u meibion a'u merched o newyn;

23. ac ni bydd gweddill ohonynt. Dygaf ddrygfyd ar bobl Anathoth ym mlwyddyn eu cosbi.”

Jeremeia 11