Jeremeia 11:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Olewydden ddeiliog deg a ffrwythlon y galwodd yr ARGLWYDD di;ond â thrwst cynnwrf mawr fe gyneua dân ynddi,ac ysir ei changau.”

17. “ARGLWYDD y Lluoedd, yr un a'th blannodd, a draetha ddrwg yn dy erbyn, oherwydd y drygioni a wnaeth tŷ Israel a thŷ Jwda, gan fy nigio ac arogldarthu i Baal.”

18. Yr ARGLWYDD a'm hysbysodd, a mi a'i gwn; dangosodd i mi eu gweithredoedd.

19. Yr oeddwn innau fel oen tyner yn cael ei arwain i'w ladd, ac ni wyddwn mai ar fy nghyfer i y gosodent gynllwynion, gan ddweud, “Distrywiwn y pren a'i ffrwyth; torrwn ef ymaith o dir y rhai byw, fel na chofir ei enw mwy.”

Jeremeia 11