Jeremeia 10:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd;aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy;nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni.

21. Aeth y bugeiliaid yn ynfyd;nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD;am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar.

22. Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod!Cynnwrf mawr o dir y gogledd,i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwchac yn drigfa bleiddiaid.

23. Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd;ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre.

Jeremeia 10