Jeremeia 10:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, dŷ Israel.

2. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd,na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd,fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.

3. Y mae arferion y bobloedd fel eilun—pren wedi ei gymynu o'r goedwig,gwaith dwylo saer â bwyell;

Jeremeia 10