Jeremeia 1:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Paid ag ofni o'u hachos,oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD.

9. Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,“Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau.

10. Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedda thros y teyrnasoedd,i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr,i ddifetha ac i ddymchwelyd,i adeiladu ac i blannu.”

11. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Jeremeia, beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld gwialen almon.”

12. Atebodd yr ARGLWYDD, “Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio fy ngair i'w gyflawni.”

Jeremeia 1