Jeremeia 1:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Jeremeia, beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld gwialen almon.”

12. Atebodd yr ARGLWYDD, “Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio fy ngair i'w gyflawni.”

13. A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, “Beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd.”

14. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “o'r gogledd yr ymarllwys dinistr dros holl drigolion y tir.

15. Oherwydd dyma fi'n galw holl deuluoedd teyrnas y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “a dônt a gosod bob un ei orsedd ar drothwy pyrth Jerwsalem, yn erbyn ei holl furiau o'u hamgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda;

Jeremeia 1