Ioan 9:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Fe wyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond ei fod yn gwrando ar unrhyw un sy'n dduwiol ac yn gwneud ei ewyllys ef.

32. Ni chlywyd erioed fod neb wedi agor llygaid rhywun oedd wedi ei eni'n ddall.

33. Oni bai fod y dyn hwn o Dduw, ni allai wneud dim.”

34. Atebodd y Phariseaid ef, “Fe'th aned di yn gyfan gwbl mewn pechod, ac a wyt ti yn ein dysgu ni?” Yna taflasant ef allan.

Ioan 9