Ioan 9:24-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yna galwasant atynt am yr ail waith y dyn a fu'n ddall, ac meddent wrtho, “Dywed y gwir gerbron Duw. Fe wyddom ni mai pechadur yw'r dyn hwn.”

25. Atebodd yntau, “Ni wn i a yw'n bechadur ai peidio. Un peth a wn i: roeddwn i'n ddall, ac yn awr rwyf yn gweld.”

26. Meddent wrtho, “Beth wnaeth ef iti? Sut yr agorodd ef dy lygaid di?”

27. Atebodd hwy, “Rwyf wedi dweud wrthych eisoes, ond nid ydych wedi gwrando. Pam yr ydych mor awyddus i glywed y peth eto? Does bosibl eich bod chwi hefyd yn awyddus i fod yn ddisgyblion iddo?”

28. Ar hyn, dyma hwy'n ei ddifrïo ac yn dweud wrtho, “Ti sy'n ddisgybl i'r dyn. Disgyblion Moses ydym ni.

29. Fe wyddom fod Duw wedi llefaru wrth Moses, ond am y dyn hwn, ni wyddom o ble y mae wedi dod.”

30. Atebodd y dyn hwy, “Y peth rhyfedd yw hyn, na wyddoch chwi o ble y mae wedi dod, ac eto fe agorodd ef fy llygaid i.

31. Fe wyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond ei fod yn gwrando ar unrhyw un sy'n dduwiol ac yn gwneud ei ewyllys ef.

32. Ni chlywyd erioed fod neb wedi agor llygaid rhywun oedd wedi ei eni'n ddall.

33. Oni bai fod y dyn hwn o Dduw, ni allai wneud dim.”

34. Atebodd y Phariseaid ef, “Fe'th aned di yn gyfan gwbl mewn pechod, ac a wyt ti yn ein dysgu ni?” Yna taflasant ef allan.

35. Clywodd Iesu eu bod wedi ei daflu allan, a phan gafodd hyd iddo gofynnodd iddo, “A wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?”

36. Atebodd yntau, “Pwy yw ef, syr, er mwyn imi gredu ynddo?”

Ioan 9