25. Gofynasant iddo felly, “Pwy wyt ti?” Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf o'r dechrau yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych.
26. Gallwn ddweud llawer amdanoch, a hynny mewn barn. Ond y mae'r hwn a'm hanfonodd i yn eirwir, a'r hyn a glywais ganddo ef yw'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi i'r byd.”
27. Nid oeddent hwy'n deall mai am y Tad yr oedd yn llefaru wrthynt.
28. Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw, ac nad wyf yn gwneud dim ohonof fy hun, ond fy mod yn dweud yr union bethau y mae'r Tad wedi eu dysgu imi.
29. Ac y mae'r hwn a'm hanfonodd i gyda mi; nid yw wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, oherwydd yr wyf bob amser yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd ef.”
30. Wrth iddo ddweud hyn, daeth llawer i gredu ynddo.
31. Yna dywedodd Iesu wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo, “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi.
32. Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.”
33. Atebasant ef, “Plant Abraham ydym ni, ac ni buom erioed yn gaethweision i neb. Sut y gelli di ddweud, ‘Fe'ch gwneir yn rhyddion’?”
34. Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod.
35. Ac nid oes gan y caethwas le arhosol yn y tŷ, ond y mae'r mab yn aros am byth.
36. Felly os yw'r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd.