Ioan 8:25-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Gofynasant iddo felly, “Pwy wyt ti?” Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf o'r dechrau yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych.

26. Gallwn ddweud llawer amdanoch, a hynny mewn barn. Ond y mae'r hwn a'm hanfonodd i yn eirwir, a'r hyn a glywais ganddo ef yw'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi i'r byd.”

27. Nid oeddent hwy'n deall mai am y Tad yr oedd yn llefaru wrthynt.

28. Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw, ac nad wyf yn gwneud dim ohonof fy hun, ond fy mod yn dweud yr union bethau y mae'r Tad wedi eu dysgu imi.

29. Ac y mae'r hwn a'm hanfonodd i gyda mi; nid yw wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, oherwydd yr wyf bob amser yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd ef.”

30. Wrth iddo ddweud hyn, daeth llawer i gredu ynddo.

31. Yna dywedodd Iesu wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo, “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi.

32. Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.”

33. Atebasant ef, “Plant Abraham ydym ni, ac ni buom erioed yn gaethweision i neb. Sut y gelli di ddweud, ‘Fe'ch gwneir yn rhyddion’?”

Ioan 8