12. Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. “Myfi yw goleuni'r byd,” meddai. “Ni bydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd.”
13. Meddai'r Phariseaid wrtho, “Tystiolaethu amdanat dy hun yr wyt ti; nid yw dy dystiolaeth yn wir.”