Ioan 7:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Nid oedd hyd yn oed ei frodyr yn credu ynddo.

6. Felly dyma Iesu'n dweud wrthynt, “Nid yw'r amser yn aeddfed i mi eto, ond i chwi y mae unrhyw amser yn addas.

7. Ni all y byd eich casáu chwi, ond y mae'n fy nghasáu i am fy mod i'n tystio amdano fod ei weithredoedd yn ddrwg.

8. Ewch chwi i fyny i'r ŵyl. Nid wyf fi'n mynd i fyny i'r ŵyl hon, oherwydd nid yw fy amser i wedi dod i'w gyflawniad eto.”

9. Wedi dweud hyn fe arhosodd ef yng Ngalilea.

10. Ond pan oedd ei frodyr wedi mynd i fyny i'r ŵyl, fe aeth yntau hefyd i fyny, nid yn agored ond yn ddirgel, fel petai.

11. Yr oedd yr Iddewon yn chwilio amdano yn yr ŵyl ac yn dweud, “Ble mae ef?”

Ioan 7