Ioan 7:43-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Felly bu ymraniad ymhlith y dyrfa o'i achos ef.

44. Yr oedd rhai ohonynt yn awyddus i'w ddal, ond ni osododd neb ddwylo arno.

45. Daeth y swyddogion yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheini iddynt, “Pam na ddaethoch ag ef yma?”

46. Atebodd y swyddogion, “Ni lefarodd neb erioed fel hyn.”

47. Yna dywedodd y Phariseaid, “A ydych chwithau hefyd wedi eich twyllo?

48. A oes unrhyw un o'r llywodraethwyr wedi credu ynddo, neu o'r Phariseaid?

Ioan 7