Ioan 7:40-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Ar ôl ei glywed yn dweud hyn, meddai rhai o blith y dyrfa, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd.”

41. Meddai eraill, “Hwn yw'r Meseia.” Ond meddai rhai, “Does bosibl mai o Galilea y mae'r Meseia yn dod?

42. Onid yw'r Ysgrythur yn dweud mai o linach Dafydd ac o Fethlehem, y pentref lle'r oedd Dafydd yn byw, y daw'r Meseia?”

43. Felly bu ymraniad ymhlith y dyrfa o'i achos ef.

44. Yr oedd rhai ohonynt yn awyddus i'w ddal, ond ni osododd neb ddwylo arno.

45. Daeth y swyddogion yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheini iddynt, “Pam na ddaethoch ag ef yma?”

Ioan 7